Area Ranger - Caernarfon

Caernarfon, Gwynedd
25,662 pa
22 Jun 2022
06 Jul 2022
IRC124011
Full Time, Part Time
Area Ranger - Caernarfon

Summary

***INTERNAL APPLICANTS ONLY PLEASE***

***YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG***

The voice of our landscapes, conservation champions and lovers of all things outdoors, you’ll help to keep the British countryside and coast wonderful. Working in some of the nation’s most stunning places and spaces, come rain or shine, your love of the outdoors will inspire others as you strive to ensure that landscapes are beautifully presented and continue to take our visitors’ breath away.

The ability to communicate fluently in Welsh is essential for this role.

Duration: Fixed Term Contract until 30 May 2023

Crynodeb

Llais ein tirluniau, hyrwyddwyr cadwraeth a’r rheiny sy’n caru popeth am yr awyr agored. Byddwch yn helpu i gadw cefn gwlad ac arfordir Prydain yn hardd. Gan weithio yn rhai o leoedd a mannau mwyaf godidog y wlad, waeth beth yw’r tywydd, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill a byddwch yn ymdrechu i sicrhau bod tirluniau’n cael eu harddangos ar eu gorau ac yn parhau i syfrdanu ymwelwyr.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Hyd: Contract Cyfnod Penodol hyd at 30 Mai 2023



What it's like to work here

Day-to-day you will lead the National Trust Ranger footpath team, based at Craflwyn (near Beddgelert). Your primary focus will be on access and footpath maintenance in Eifionydd, Carneddau and Glyderau.

Occasionally you will be asked to help on the wider estate with practical tasks from fencing and dry-stone walling to tree planting and managing invasive species. You will work closely with farm tenants, volunteers and the local community; the majority of whom are Welsh-speaking, so the ability to communicate effectively in Welsh is essential for this role.

There can be no doubt that the area you will work in is stunning, but conditions in the mountains can be harsh. You’ll spend considerable time outdoors all year 'round, so you must be prepared for all types of weather, have good experience working outdoors, and be resilient and willing to adapt your plans to work with the weather of the day.

Sut brofiad yw gweithio yma

Byddwch yn arwain tîm llwybr cerdded Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o ddydd i ddydd yng Nghraflwyn (ger Beddgelert). Eich prif ffocws fydd mynediad a chynnal a chadw llwybrau cerdded yn Eifionydd, Carneddau a Glyderau.

Weithiau, bydd gofyn ichi helpu ar yr ystâd ehangach gyda thasgau ymarferol, o ffensio a chodi waliau cerrig i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Byddwch yn gweithio'n agos â thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a'r gymuned leol; bydd y rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, felly mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Does dim amheuaeth y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn odidog, ond gall yr amodau ar y mynyddoedd fod yn arw. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, yn meddu ar brofiad da o weithio yn yr awyr agored, a bod yn wydn ac yn barod i addasu’ch cynlluniau er mwyn gweithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.



What you'll be doing

Following the lead from the Property’s Business Plan you will build and manage an effective and flexible work programme for you and your team, always ensuring compliance with health and safety legislation and guidance.

Using your experience of footpath building and maintenance techniques you will lead and train a small team of rangers, organise volunteer days and make the most of community engagement opportunities.

You will have a clear understanding how your work contributes to the National Trust strategy to reduce carbon, reverse declines in biodiversity and ensure everyone is welcome. You will ensure this is communicated to a broad audience through social media, TV/radio interviews, community talks, guided walks and public events.

Working with the Lead Rangers and the Countryside Manager you will plan new footpath projects, prepare specifications and apply for consent for works, consult with stakeholders and manage project budgets and contractors.

Please also read the full role profile attached to this advert.

Eich gwaith

Gan ddilyn arweiniad Cynllun Busnes yr Eiddo, byddwch yn datblygu ac yn rheoli rhaglen waith effeithiol a hyblyg ar eich cyfer chi a'ch tîm, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chanllawiau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch drwy'r amser.

Gan ddefnyddio eich profiad o adeiladau llwybrau cerdded a thechnegau cynnal a chadw, byddwch yn arwain tîm bach o geidwaid, yn trefnu dyddiau gwirfoddoli ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ymgysylltu cymunedol.

Bydd gennych chi ddealltwriaeth glir o sut mae eich gwaith yn cyfrannu at strategaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn lleihau carbon, gwrthdroi gostyngiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau bod croeso i bawb. Byddwch yn sicrhau bod hyn yn cael ei gyfathrebu i gynulleidfa eang drwy gyfryngau cymdeithasol, cyfweliadau ar y teledu a radio, sgyrsiau cymunedol, teithiau tywys a digwyddiadau cyhoeddus.

Wrth weithio â'r Prif Geidwaid a'r Rheolwr Cefn Gwlad, byddwch yn cynllunio prosiectau llwybrau cerdded newydd, yn paratoi manylebau ac yn gwneud cais am ganiatâd i gynnal gwaith, ymgynghori â rhanddeiliaid a rheoli contractwyr a chyllidebau prosiect.

Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil rôl llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.



Who we're looking for

To deliver this role successfully, you will need to;

  • Have practical experience of countryside/rural skills, especially those relevant to access and footpath work (e.g. stone pitching and landscaping)
  • Have evidence of good people management and leadership
  • Have excellent communication skills including public presentation
  • Have strong organisational skills including work programming
  • Have a proven track record of managing and leading on health and safety and environmental compliance
  • Have a full UK Driving licence
  • Be able to manage contractors and small projects, including budgets.

And you'll need to demonstrate the following experience on your CV/Application;

  • Diploma/NVQ3 or higher in countryside or environmental conservation
  • Have good wildlife identification skills
  • Habitat and species surveying experience
  • Empathy with, and significant experience of, working with volunteers

Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn llwyddiannus, bydd angen i chi fodloni'r gofynion canlynol;

  • Meddu ar brofiad ymarferol o sgiliau cefn gwlad/gwledig, yn enwedig y rhai sydd yn addas ar gyfer gwaith llwybrau a mynediad (e.e. pitsio cerrig a thirlunio)
  • Meddu ar dystiolaeth o reoli ac arwain pobl yn dda
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn cynnwys cyflwyno’n gyhoeddus
  • Meddu ar sgiliau trefnu da, yn cynnwys creu rhaglenni gwaith
  • Dod o gefndir llwyddiannus o reoli ac arwain materion cydymffurfio gyda gofynion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol
  • Meddu ar drwydded yrru lawn y DU
  • Yn gallu rheoli contractwyr a phrosiectau bach, yn cynnwys cyllidebau.

Bydd angen i chi ddangos y profiad canlynol ar eich CV/Cais;

  • Diploma/NVQ3 neu uwch mewn cadwraeth cefn gwlad neu amgylcheddol
  • Sgiliau adnabod bywyd gwyllt da
  • Profiad o arolygu cynefinoedd a rhywogaethau
  • Profiad sylweddol o weithio gyda gwirfoddolwyr ac yn gallu dangos empathi tuag atynt


The package

The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.

Benefits for working at the National Trust include:

  • Flexible working whenever possible
  • Free parking at most locations
  • Free entry to our properties for you, a guest and your children (under 18)
  • Substantial pension scheme of up to 10% basic salary

Click here to find out more about the benefits we offer to support you.

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

  • Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
  • Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
  • Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cliciwch yma i ddysgu rhagor am y buddion a gynigiwn i chi i'ch cefnogi.